Starship SpaceX

Starship SpaceX
Enghraifft o'r canlynolteulu o rocedi Edit this on Wikidata
Matharch-gerbyd lansio all godi pwysau trwm, reusable launch vehicle Edit this on Wikidata
DeunyddSAE 304 stainless steel Edit this on Wikidata
Màs5,000 tunnell, 11,000,000 pwys Edit this on Wikidata
GwladBaner UDA UDA
Rhan ocerbydau lawnsio SpaceX, rhaglen Artemis, rhaglen rhyngblanedol SpaceX, Rocket Cargo, rhaglen dearMoon, rhaglen datblygu system lansio ailddefnyddiadwy SpaceX Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2005 Edit this on Wikidata
PerchennogSpaceX Edit this on Wikidata
Yn cynnwysSuper Heavy, Starship Edit this on Wikidata
GwneuthurwrSpaceX Edit this on Wikidata
RhagflaenyddBig Falcon Rocket Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.spacex.com/vehicles/starship/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Starship yn gerbyd lansio dwy ran ac yn llong ofod enfawr sy'n cael ei datblygu gan y cwmni Americanaidd SpaceX. Dyma'r cerbyd lansio trymaf, talaf a mwyaf pwerus sydd wedi hedfan i'r gofod.[1]

Bwriedir i Starship fod yn gwbl ailddefnyddiadwy, sy'n golygu y bydd y ddau gam yn cael eu hadfer ar ôl cenhadaeth a'u hailddefnyddio. Enwyd y roced cyfan hwn ar ôl y rhan uchaf; enw'r rhan isaf yw Heavy Booster.

Mae'r llongofod Starship wedi'i gynllunio i ddisodli rocedi Falcon 9 a Falcon Heavy, ehangu'r rhwydwaith o loerenau Starlink, a lansio criwiau i'r Lleuad ac i blaned Mawrth. Mae SpaceX, un o gwmniau Elon Musk, yn bwriadu defnyddio cerbydau Starship hefyd fel tanceri tanwydd (methylocs), er mwyn cyflenwi tanwydd i Starships eraill. Mae SpaceX wedoi arwyddo cytundeb gyda NASA i gludo gofodwyr i'r Lleuad, tua 2025, fel rhan o'r raglen Artemis NASA. Ar ddiwedd y dydd, pwrpas Starship yw gwireddu breuddwyd Elon Musk o wladychu'r blaned Mawrth.

Fel y nodwyd, mae Starship yn cynnwys dwy ran: y Super Heavy booster a'r llong ofod Starship ei hun. Mae'r Booster a'r llongofod yn cael eu pweru gan beiriannau Raptor, sy'n llosgi methan hylifol ac ocsigen hylifol (sef Methylocs). Mae'r ddau gam wedi'u hadeiladu'n bennaf o ddur gwrthstraen (stainless steel), sy'n ddeunydd ysgafn ond anarferol i'w gael mewn roced. Atgyfnerthir y Starship gan deils clai pan mae'n dychwelyd i atmosffer y Ddaear, ac mae'n arafu ei hun (drwy roced pwrpasol), cyn cael ei ddal gan bâr o freichiau mecanyddol (y chopsticks) sydd ynghlwm wrth y tŵr lansio.Mae hefyd yn defnyddio symudiad belly flop lle mae'r llong ofod yn troi o safle fertigol i safle llorweddol, cyn troi'n ôl, tanio rocedi a glanio'n fertigol.

Nod y system Starship yw lansio i'r gofod yn aml, am gost isel. Edrychir ar bob prawf fel gwersi pwysig, ac yn aml mae'r prawf yn ddinistriol (yn fethiant yng ngolwg rhai), profion ar gerbydau-gofod prototeip.[2] Cynhaliwyd prawf hedfan cyntaf y system Starship lawn ar 20 Ebrill 2023 a daeth i ben bedwar munud ar ôl ei lansio drwy ddinistrio'r cerbyd prawf. Digwyddodd yr ail brawf ar 18 Tachwedd 2023, ond tra bod y ddwy ran wedi gwahanu'n llwyddiannus, ffrwydrodd y Super Heavy yn syth ar ôl gwahanu, tra collwyd y rhan uchaf (Starlink ei hun) bron i wyth munud ar ôl ei lansio.[3]

  1. businessinsider.com; adalwyd Rhagfyr 2023.
  2. Wall, Mike (2023-04-21). "What's next for SpaceX's Starship after its historic flight test?". Space.com (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Ebrill 2023. Cyrchwyd 26 Ebrill 2023.
  3. Skipper, Joe; Roulette, Joey; Gorman, Steve (2023-11-18). "SpaceX Starship launch presumed failed minutes after reaching space". Reuters (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-11-18.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search